P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ym mhentref Llansbyddyd, ger Aberhonddu ym Mhowys, drwy weithredu mesurau i arafu’r traffig, fel gostwng y terfyn cyflymder presennol, gwella’r goleuadau ar ochr y ffordd a gwella’r arwyddion ar yr A40.

 

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=875&optionId=0

 

Cynigwyd gan: Cymdeithas Trigolion Llansbyddyd

 

Nifer y llofnodion: 67

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 6 Tachwedd 2008, 13 Ionawr, 2 Mawrth, 24 Tachwedd 2009, 19 Ionawr, 23 Mawrth, 25 Mai, 16 Tachwedd 2010, 25 Ionawr, 29 Mawrth, 21 Mehefin 2011.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.